Ymunwch â Ni

Rydym yn angerddol dros hyrwyddo Cerbydau Trydan (CTau neu EVs) yng Nghymru ac yn cynrychioli anghenion pob defnyddiwr. Ymunwch ag EVA Cymru i gefnogi ein gwaith ac yn cadw’n wybodus  am bob datblygiad ym maes trafnidiaeth ddatgarboneiddiedig yng Nghymru.

Rydym yn cynnig dwy lefel o Aelodaeth Unigol:

Aelodaeth Gysylltiol AM DDIM

Gallwch ymuno ag EVA Cymru fel Aelod Cyswllt yn rhad ac am ddim drwy gwblhau’r ffurflen hon <cliciwch yma>.
Mae hyn yn rhoi mynediad  at rywfaint o wybodaeth EVA Cymru a’n cylchlythyrau rheolaidd.

Aelodaeth Lawn

AR GAEL NAWR: Am ddim ond £10 gallwch ddod yn aelod llawn o EVA Cymru, sy’n rhoi holl fanteision Aelodaeth Gyswllt i chi, yn ogystal â buddion Aelodaeth Lawn megis gostyngiadau i aelodau a digwyddiadau unigryw. Byddwch hefyd yn cefnogi ein gwaith yn uniongyrchol ac yn gallu pleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CGB) i osod cyfeiriad a strategaeth EVA Cymru.

I ymuno (neu uwchraddio eich lefel aelodaeth), cwblhewch y ffurflen hon <cliciwch yma>.

Gwnewch daliad o £10 i’r cyfrif canlynol os gwelwch yn dda
Name: EV Association Cymru CIC
Sort code: 08-92-99
Account: 67458695
Cyfeirnod: Y rhan o’ch cyfeiriad e-bost cyn yr “@”.
Bydd pob taliad yn cael ei gydnabod.

Nodyn: Rydym yn gofyn am eich cod post er mwyn i ni allu nodi pobl a allai gefnogi digwyddiadau yn eich ardal.

Rydym hefyd yn cynnig Aelodaeth Gorfforaethol i gwmnïau sy’n dymuno cefnogi datblygiadau CTau yng Nghymru. Os hoffech drafod Aelodaeth Gorfforaethol, cysylltwch â ni.